QS
Twitter - Ysgol Llandygai
(+44) 01248-352163
Siarter Iaith Gymraeg
Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Stonewall - Acceptance without exception
Ysgol Iach Gwynedd
Gwobr y Faner Werdd
Ysgol Llandygai, Llandygai,
Bangor, Gwynedd. LL57 4HU
Ffôn:
Class Dojo
Ysgol Werdd - Efydd, Arian ac Aur
Gwefan Ymatebol - Pobol y We
DOSBARTH ENFYS - Derbyn a Blwyddyn 1
Mrs Lowri Pritchard - Athrawes Ddosbarth
Mrs Einir Hughes - Uwch Gymhorthydd
Mrs Bethan Parri - Cymhorthydd ADY
 
Gwnaethom gychwyn ein thema trwy edrych ar y llyfr ‘Ia-hŵ meddai Gwdihŵ’ a chael cyfle i drafod  a meddwl am yr holl liwiau sydd yn y byd. Cawsom gyfle i wneud gwaith siapiau trwy greu tylluanod siapiau ac hefyd gwneud patrymau ail-adroddus o’r teulu tylluanod ar y gangen.
‘Rydan ni wrth ein boddau yn canu yn Nosbarth Enfys, ac ‘rydym  wedi bod wrthi yn brysur iawn yn dysgu caneuon y Sialens Rhigymau (Pori trwy stori). Ein hoff ganeuon yw ‘Pum corcodeil’ a ‘Tri broga boliog braf’. Yn ein tro, cawn fynd a bag rhigymau adre dros y penwythnos i’w rannu gyda’n teuluoedd.
Yn dilyn casglu dail a brigau o amgylch yr ysgol, buom yn edrych ar waith Andy Goldsworthy a gweld ei fod yn defnyddio deunyddiau naturiol i wneud gwaith celf. Buom yn cydweithio i greu gwaith celf ein hunain gan ddenfyddio brigau, dail, mês, moch coed, concyrs a cherrig amrywiol. Braf oedd cael gweithio yn yr awyr agored.
‘Rydan ni hefyd wedi bod yn greadigol iawn hefo dail. Welwch chi’r gloynnod byw, y coed a’r tân yn y lluniau yma gan 4 disgybl o’r dosbarth? ‘Rydan ni yn cofio bod tro I weitho fel Wil Wiwer a chanolbwyntio ar ein gwaith fel y gwnaeth Wil wrth iddo gasglu cnau i’w fam.
Rhan bwysig iawn o’n gwaith bob wythnos yn Nosbarth Enfys yw ei gwaith ar lythrennau gan ddenfyddio Cynllun Tric a Chlic. Cawn gyfle i ymarfer ein sgiliau adnabod a chyfuno llythrennau ac hefyd  ffurfio llythrennau ac ‘rydym i gyd fel Ynyr Ystlum yn gwella bob wythnos gyda’n gwaith ieithyddol

Croeso i dudalen Dosbarth Enfys sy’n ddosbarth ar gyfer disgyblion oedran Derbyn Ysgol Llandygai.
Ein thema ni yn nhymor yr Hydref yw ‘Lliwiau’r Hydref’.
Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai  
Croeso i  wefan