QS
Twitter - Ysgol Llandygai
(+44) 01248-352163
Siarter Iaith Gymraeg
Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Stonewall - Acceptance without exception
Ysgol Iach Gwynedd
Gwobr y Faner Werdd
Ysgol Llandygai, Llandygai,
Bangor, Gwynedd. LL57 4HU
Ffôn:
Class Dojo
Ysgol Werdd - Efydd, Arian ac Aur
Gwefan Ymatebol - Pobol y We
DOSBARTH GWAWR - Blwyddyn 1 a 2
Mrs Manon Griffiths - Athrawes Ddosbarth
Ms Heather Brown - Cymhorthydd dosbarth
Mrs Bethan Jones - Cymhorthydd ADY
Thema y tymor yma ydi Dreigiau ac rydan ni wedi darllen  ac wedi selio ein gweithgareddau dysgu ar y llyfrau Deri Dan y Daliwr Dreigiau, Ma’r Ddraig Na’n Boen ac Alun yr Arth a’r Ddraig Fach Goch.Dyma ein cerddi yn ateb y cwestiwn ‘Beth Sydd yn Nyth y Ddraig?’ Roedd y disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio ansoddeiriau a chymariaethau yn eu gwaith.
I ddathlu a chofio bywyd a gwaith y bardd T Llew Jones bu’r disgyblion yn dysgu un cerdd-Y Falwoden ar eu côf cyn mynd ymlaen i greu gwaith celf gyda sialc a oedd yn eu hannog i wneud patrwm troellog fel y gragen.
Dyma yr oriel sydd yn  canolbwyntio ar siap sgwar gan fod clytwaith o sgwriau ar du mewn I lyfr stori Mae’r Ddraig Ma’n Boen! Dyma’r digyblion wedi efelychu arddull Piet Mondrian.
Fel rhan o godi safon gwaith ysgrifennu estynedig y disgyblion - rydym yn cyflwyno geirfa/ansoddeiriau/cymariaethau fydd yn cael eu defnyddio yn y darn ysgrifenedig terfynol. Mae yr eirfa yma yn disgrifio Plismones Y Ddraig .

Dyma’r ardal myfyrio yn y dosbarth ble mae y disgyblion yn cael eu hannog i ymweld â hi pan yn teimlo yn hapus neu drist neu pan mae nhw angen dau funud bach i feddwl neu weddio.
Mae Deio Ditectif yn chwilio am ddisgyblion sydd yn gwthio’r bar neu yn ymgyrraedd am y sêr pan yn wynebu tasgau. Dyma ran o ddamcaniaeth Asesu ar Gyfer Dysgu - Shirley Clark. Bydd y disgybl yn gwisgo het Deio yn ystod y diwrnod hwnnw ac hefyd yn cael mynd a thystysgrif adref.
Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai  
Croeso i  wefan