QS
Twitter - Ysgol Llandygai
(+44) 01248-352163
Siarter Iaith Gymraeg
Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Stonewall - Acceptance without exception
Ysgol Iach Gwynedd
Gwobr y Faner Werdd
Ysgol Llandygai, Llandygai,
Bangor, Gwynedd. LL57 4HU
Ffôn:
Class Dojo
Ysgol Werdd - Efydd, Arian ac Aur
Gwefan Ymatebol - Pobol y We
DOSBARTH HEDD - Blwyddyn 4 a 5
Mrs Non Jones - Athrawes Ddosbarth
Mr Luc Thomas - Cymhorthydd ADY
Miss Lois Morris - Cymhorthydd ADY
Miss Bethan Williams - Cynhorthydd ADY
 
Thema Dosbarth Hedd y tymor yma yw "Teithio".
Hyd yn hyn, rydym wedi bod yn edrych ar bellter gwledydd oddi wrth ei gilydd a gwahanol fathau o drafnidaeth a sut mae wedi esblygu gyda treigl amser. Rydym wedi bod yn dysgu am hanes llong o’r enw’r Mimosa a groesodd o Gymru i Batagonia dros 150 o flynyddoedd yn ôl er mwyn sefydlu Gwladfa Gymreig yno. Rydym wedi bod yn ysgrifennu e-byst i blant o Ysgol yr Hendre, Trelew yn holi cwestiynau am yr Ysgol a’u ffordd o fyw ym Mhatagonia. Bum yn defnyddio PURPLEMASH ar gyfer ysgrifennu’r e-byst.
Rydym wedi bod yn cymharu bywyd yng Nghymru gyda bywyd ym Mhatagonia. Bum yn edrych ar elfennau megis y tywydd, bywyd gwyllt, diwylliant, iaith, trafnidiaeth a cerddorioaeth draddodiadol. Byddwn yn cael ymweliad gan berson sydd wedi treulio amser ym Mhatagonia cyn bo hir ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar. Bum yn creu collages o’r Mimosa fel gwaith cartref, cawsom lawer o hwyl yn gwneud rhain.
Rydym wedi bod yn trafod cariad fel gwerth mis Hydref, a cawsom gylfe i berfformio ein gwasanaeth am “Gariad” i weddill yr Ysgol. Yn ein gwasanaeth, bum yn trafod sut mae dangos cariad I’n ffrindiau, teulu a’n cymdogion.
Hefyd, rydym wedi bod yn brysur iawn yn creu ymholiad gyda esgidiau rhedeg Miss Roberts. Roedd Miss Roberts eisiau darganfod pa arwyneb oedd yn creu y mwyaf o ffrithiant, felly bum yn brysur yn mesur grymoedd a gweld effaith grymoedd ar wahanol arwyneb.
Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai  
Croeso i  wefan