NEWYDDION YSGOL LLANDYGAI
Rydym wedi cael wythnosau pleserus ers ail gychwyn yn ôl yn yr ysgol. Mae'r disgyblion wedi ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd ac wedi ymgydio mewn themâu cyffrous. Ac, mae'n rhaid dweud, mae'r disgyblion yn edrych yn smart iawn yn y wisg ysgol newydd!
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i groesawu teuluoedd newydd atom am y tro cyntaf - Dwi'n siŵr y gwnewch ymgartrefu gyda ni yn sydyn iawn.
Hoffwn hefyd, ddiolch i'n gwirfoddolwyr darllen sydd yn parhau i roi eu hymroddiad a'u hamser diffuant i'r ysgol unwaith eto eleni. Mae'r disgyblion yn edrych ymlaen yn wythnosol i'ch gweld ac yn gwerthfawrogi’r cyfle.