DOSBARTH TRAED BACH - Meithrin
Mrs Mair Jones - Uwch Gymhorthydd
Miss Marian Roberts - Cymhorthydd Dosbarth
‘Rydan ni wedi bod yn dysgu enwau’r lliwiau ac yn edrych am wahanol liwiau o amgylch yr ysgol. ‘Rydan ni hefyd wedi bod yn creu enfys liwgar sydd bellach yn addurno ein dosbarth.
Buom yn edrych ar wahanol fathau o goed a dail a chael cyfle i edrych yn fanwl ar liwiau’r dail yn yr hydref. Gwnaethom ddatblygu ein sgiliau llawdriniol manwl trwy bwytho dail gyda gwlân. Yn dilyn casglu dail o amgych yr ysgol, buom yn printio gyda’r dail gan ddefnydido lliwiau’r hydref. Gwnaethom hefyd bypedau dail er mwyn cael dawnsio i gerddoriaeth yn y Neuadd ar ôl clywed pennill gyntaf enwog T Llew Jones, ‘Dawns y Dail’. Cawsom ni a’r dail lawer o hwyl yn dawnsio i gân Cyw o’r un enw a cherdd T Llew Jones.
Lle da yn Nosbarth Traed Bach i gyd-chwarae, rhannu a mwynhau yw ‘Dan y dail’. Cafodd ‘Dan y dail’ ei adeiladu yn dilyn gwrando ar stori o’r un enw gan Angharad Tomos. ‘Rydan ni wrth ein boddau yn cael picnic ar glustogau lliwiau’r hydref ac yn mwynhau hefyd coginio bwyd blasus. Mae croeso i bawb bob amser yn ‘Dan y dail’ am sgwrs a phaned.
Croeso i dudalen Dosbarth Traed Bach, sef y dosbarth i ddisgyblion oedran Meithrin yn yr ysgol.