BLAENORIAETHAU - CYNLLUN GWELLA YSGOL - 2017-2018
BLAENORIAETH 1:
Y Gymraeg- mabwysiadu strategaethau Pie Corbett er mwyn datblygu’r elfen llafar er mwyn codi’r nifer sydd yn ymgyrraedd a L4+ a L5+ a D5+ a D6+ yn y cyfnod sylfaen.
BLAENORIAETH 2:
Rhesymu Rhifiadol- codi safonau a sicrhau dilyniant mewn rhesymu rhifiadol gan gynyddu’r nifer o ddisgyblion sydd yn ymgyrraedd y chwarteli uwch yn eu perfformiad yn y Profion Cenedlaethol- parhau i berfformio yn y chwarteli uwch yng NgA2 / Cynyddu canlyniad o Chwarteli 2 D5/D6
BLAENORIAETH 3:
Parhau i weithredu Cwricwlwm Pivotal gyda ffocws penodol ar gynnal safonau Datblygiad Personol a Chymdeithasol D5+/D6+ a sefydlu cynllun ‘Llofnod Dysgu Teulu’ er mwyn cryfhau’r cysylltiad gyda’r teulu ac arfogi rhieni i gefnogi eu plant i wella eu sgiliau.
BLAENORIAETH 4:
Datblygu’r Ardal Tu Allan i sicrhau ansawdd rhagorol mewn darpariaeth addysgiadol y Cyfnod Sylfaen.
BLAENORIAETH 5:
Codi canran presenoldeb yr ysgol er mwyn ymgyrraedd â chwartel 1 gan dargedu a thracio gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
BLAENORIAETH 6:
Parhau i ddatblygu ein darpariaeth drwy anelu i ragori yn ein cydweithio rhyngwladol ar gyfer ymateb i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol- yr ysgol yn rhan o brosiect ERASMWS.
BLAENORIAETH 7:
Asesu ar Gyfer Dysgu- sicrhau cysondeb mewn defnydd o strategaethau Shirley Clarke. (Yn dilyn sesiwn craffu ar lyfrau gyda’r ymgynghorydd Her.)